Dathliad o Dirwedd a Threftadaeth
Mae dyffryn Tywi yn cael ei adnabod fel un o dirweddau hanesyddol pwysicaf Cymru. Mae’r dyffryn yn adnabyddus am ansawdd ei olygfeydd ac am y dirwedd a gafodd ei llunio gan rew, gan ddŵr, ac er y cyfnod cyn hanes, gan ddyn. Yn y dyffryn gwelwn gaerau a chestyll, tirweddau, gerddi, a pharciau wedi eu tirweddu, ynghyd â thiroedd amaethyddol breision.
Bu prosiect Tywi Afon yr Oesoedd yn edrych yn benodol ar dirwedd y dyffryn rhwng Llangadog a Dryslwyn. Bwriad y prosiect oedd dathlu a diogelu’r dyffryn nodedig hwn drwy;
- datblygu gwell dealltwriaeth o’r dirwedd
- cryfhau'r cysylltiadau rhwng y dirwedd a'r gymuned
- datblygu’r sgiliau angenrheidiol i ofalu am y dirwedd
I gyflawni’r amcanion hyn cafodd y prosiect ei rannu’n bedair prif thema. Bu pob thema’n canolbwyntio ar agwedd benodol ar y dyffryn, gan roi amrywiaeth o gyfleoedd i gymunedau lleol ac unigolion fod yn rhan o ystod eang o weithgareddau.
Chwilota’r Tywi! Roedd y thema yma yn cynnig cyfle i ymchwilio i wreiddiau naturiol y dyffryn drwy holl gyffro archaeoleg a daeareg.
Darganfod Dyffryn Tywi - Bu'r rhan yma o'r prosiect yn dehongli'r Dyffryn mewn ffyrdd newydd a diddorol.
Prosiect Tirwedd a Bioamrywiaeth Bu'r prosiect yma yn diogelu a gwella nodweddion tirweddol traddodiadol y dyffryn drwy wneud gwaith o fudd i fioamrywiaeth.
Y Ganolfan Adeiladu Traddodiadol Cynaliadwy Bu'r Ganolfan newydd yma yn dathlu’r bensaernïaeth leol, yn cynnig gwybodaeth, ac yn darparu cyfleoedd i ddysgu sgiliau adeiladu traddodiadol. Helpodd i ddysgu mwy am ddefnyddio technoleg newydd a defnyddiau adnewyddadwy mewn hen adeiladau. Mae'r prosiect wedi cael ei ariannu i gario ymlaen gyda'r gwaith ar ddiwedd prosiect Tywi Afon yr Oesoedd.
----------------------------------------------------------------Cyllidwyd y prosiect hwn gan Gronfa Treftadaeth y Loteri a drwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013 a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Menter Bro Dinefwr.